Cronfa Gymunedol
Mae'r Gronfa Gymunedol yn...
Mae'r Cyngor Cymuned wedi ymrwymo i annog datblygiad cymunedol drwy weithio'n agos gyda'r gymuned drwy gynnig cymorth ariannol i brosiectau cymunedol. Crëwyd y gronfa i gefnogi grwpiau cymunedol a sefydliadau sydd wedi'u lleoli yn ardal weinyddol y Cyngor Cymuned.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan grwpiau a chymdeithasau cymunedol, sefydliadau gwirfoddol ac asiantaethau eraill sy'n gweithredu neu'n bodoli o fewn ardal weinyddol y Cyngor Cymuned. Ar yr amod eich bod wedi ymrwymo i'r gymuned a bod eich prosiect wedi'i dargedu ar gyfer y pentref neu gymunedau yn ein hardal weinyddol, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am grant.
Croesewir ceisiadau gan:
Cymdeithasau preswylwyr; pwyllgorau'r neuadd; grwpiau pentref/pwyllgorau; grwpiau fforwm; clybiau a chymdeithasau chwaraeon amatur; sefydliadau elusennol sy'n darparu gwasanaeth uniongyrchol o fewn ardal y Cyngor Cymuned a grwpiau diddordeb arbennig eraill.
Ni fydd y Cyngor yn derbyn ceisiadau gan:
mentrau busnes preifat; awdurdodau lleol eraill; unigolion sy'n chwilio am gymorth ar gyfer eu hunan-les eu hunain; artistiaid/grwpiau proffesiynol neu gyrff crefyddol a gwleidyddol.