Notices
FS-CASE-REF 863360565 C2203 PINGED SA16 0JE 17/09/26 NETWORK ONE REF 152036192


Llysgenhadon Ieuenctid SCHTh yn Lansio Arolwg Newydd i Bobl Ifanc | OPCC Youth Ambassadors Launch New Survey for Young People
| Llysgenhadon Ieuenctid SCHTh yn Lansio Arolwg Newydd i Bobl Ifanc | OPCC Youth Ambassadors Launch New Survey for Young People |
| Mae Llysgenhadon Ieuenctid o Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a throseddu wedi lansio arolwg newydd fel rhan o’u Prosiect Ieuenctid y Dyfodol. Nod Prosiect Ieuenctid y Dyfodol yw i’r llysgenhadon ieuenctid ddeall pryderon, barn, a phrofiadau cyfredol pobl ifanc 14 i 25 oed yn ardal Heddlu Dyfed-Powys. Bydd y llysgenhadon ieuenctid yn cynnal arolwg, yn mynychu digwyddiadau, ac yn ymweld â grwpiau lleol yn ardal Heddlu Dyfed-Powys fel rhan o’r prosiect. Mae llysgenhadon ieuenctid wedi chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o ddatblygu’r cwestiynau, gan sicrhau bod yr arolwg yn berthnasol, yn hygyrch, ac yn ystyrlon i’w cymheiriaid. Drwy gymryd rhan, bydd ymatebwyr yn cyfrannu’n uniongyrchol at ddylanwadu ar y broses o wneud penderfyniadau a gwella’r gefnogaeth sydd ar gael i bobl ifanc. Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn: “Mae eich barn chi wir yn bwysig. Rwy’n annog pob person ifanc i gymryd rhan yn yr arolwg hwn. Mae adborth pobl ifanc yn hanfodol i helpu fy llysgenhadon ieuenctid, fy swyddfa, a Heddlu Dyfed-Powys i geisio barn a phryderon ein pobl ifanc sy’n byw yn ein cymunedau. Gadewch i ni barhau i weithio gyda’n gilydd i gadw Dyfed a Phowys yn ddiogel i bobl ifanc.” Bydd gan gyfranogwyr gyfle hefyd i gymryd rhan mewn raffl fawr i ennill crys pêl droed Dinas Abertawe wedi’i lofnodi gan Gonçalo Franco. Cyhoeddir yr enillydd ym mis Medi. Darganfod mwy: https://forms.office.com/e/Fdf1aLyqZX?origin=lprLink Cymerwch ran yn yr arolwg yma: https://forms.office.com/e/Fdf1aLyqZX?origin=lprLink Mae’r arolwg yn cau ar 25 Medi 2026. Rhannwch yr arolwg hwn â’ch cysylltiadau, er mwyn casglu barn cymaint o bobl ifanc â phosibl. Yn gywir, Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys | Youth Ambassadors from the Office of the Police and Crime Commissioner have launched a new survey as part of their Future Youth Project. The Future Youth Project aims for the Youth Ambassadors to gain an understanding of the current concerns, opinions and experiences of young people aged 14-25 in the Dyfed-Powys area. The Project will see the Youth Ambassadors conduct a survey, attend events, and visit local groups in the Dyfed-Powys area. Youth Ambassadors have played a leading role in developing the questions, ensuring the survey is relevant, accessible, and meaningful to their peers. By taking part, respondents will directly contribute to influencing decision-making and improving support available to young people. Police and Crime Commissioner Dafydd Llywelyn said: “Your opinion really does matter. I encourage all young people to take part in this survey. Young people’s feedback is essential in helping my Youth Ambassadors, my Office and Dyfed-Powys Police gather the opinions and concerns of our young people living in our communities. Let’s continue to work together to keep Dyfed-Powys safe for young people.” Participants will also have a chance to enter a prize draw to win a signed Swansea City A.F.C shirt signed by Gonçalo Franco. The winner will be announced in September. Find out more: https://forms.office.com/e/Fdf1aLyqZX?origin=lprLink Take the survey here: https://forms.office.com/e/Fdf1aLyqZX?origin=lprLink The survey closes 25th September 2026. Please share this survey with your contacts, to capture as many opinions as possible. Kind regards, Office of the Police and Crime Commissioner Dyfed-Powys |

You must be logged in to post a comment.