Notices


Rhannwch eich barn ar ddyfodol Uned Mân Anafiadau Llanelli/Share your views on the future of Llanelli’s Minor Injury Unit

English below 

Annwyl randdeiliad,

Rhannwch eich barn ar ddyfodol Uned Mân Anafiadau Llanelli

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar bedwar opsiwn ar gyfer dyfodol gofal mân anafiadau yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli, yn cael ei lansio ddydd Llun (28 Ebrill 2025).

Bydd yr ymgynghoriad 12 wythnos yn rhedeg tan 22 Gorffennaf 2025 gyda digwyddiadau yn cael eu cynnal yn ein cymuned ac ar-lein. Bydd holiadur ar gael i chi ac aelodau o’n cymuned i rannu eich barn gyda ni. Bydd hefyd grwpiau ffocws a chyfarfodydd gyda grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid.

Mae’r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Philip yn darparu triniaeth ar gyfer mân anafiadau fel briwiau, ysigiadau a mân losgiadau. Mae wedi bod yn gweithredu gydag oriau agor wedi’u newid dros dro ers mis Tachwedd 2024. Yr oriau agor presennol yw 8am i 8pm bob dydd, yn hytrach na 24/7, yn bennaf oherwydd pryderon staffio, ansawdd a diogelwch.

Rydym yn ymgynghori â staff, ein cymuned leol a rhanddeiliaid, o ddydd Llun, ar bedwar opsiwn arfaethedig ar gyfer dyfodol y gwasanaeth.
 
Yr opsiynau yw:
• Opsiwn 1 – 12 awr dan arweiniad meddygon (model dros dro presennol)
• Opsiwn 2 – 14 awr dan arweiniad meddygon
• Opsiwn 3 – yn cael ei arwain fesul cam gan feddygon (12 awr i ddechrau, yn cynyddu i 14 awr, yna 24 awr fel y mae staffio yn caniatáu)
• Opsiwn 4 – Canolfan gofal brys (model gofal brys o’r un diwrnod) 14 awr

*Bydd pob opsiwn llai na 24 awr hefyd yn cynnwys dwy awr ychwanegol o staff i drin pobl sy’n mynychu’r uned tua diwedd yr oriau agor.

Bydd pobl yn cael cyfle i rannu eu barn ar yr opsiynau arfaethedig ac unrhyw effeithiau y gallent eu cael, yn ogystal â chynnig opsiynau amgen.
Gall aelodau’r cyhoedd fynychu’r digwyddiadau galw heibio cyhoeddus i gael paned o de neu goffi a gofyn i staff y Bwrdd Iechyd, gan gynnwys clinigwyr, unrhyw gwestiynau am yr opsiynau, neu i gynnig syniadau newydd.

Cynhelir digwyddiadau rhwng 3pm a 6pm (galw heibio unrhyw bryd) ar:
• Dydd Iau, 8 Mai – Clwb Gweithwyr Cross Hands, 41 Heol Llandeilo, Cross Hands, Llanelli, SA14 6RD
• Dydd Llun, 12 Mai – Canolfan Selwyn Samuel, Swît Lleidi, Cilgant y Parc, Llanelli, SA15 3AE
• Dydd Gwener, 16 Mai – Neuadd y Pensiynwyr Rhydaman, Stryd y Cei, Rhydaman, SA18 3EN
• Dydd Llun, 19 Mai – Neuadd Goffa Porth Tywyn Stryd Parc-Y-Minos, Porth Tywyn, SA16 0BN

Cyhelir y digwyddiadau ar-lein:
• Dydd Mawrth, 6 Mai 6.30pm-8pm
• Dydd Mawrth, 20 Mai 1pm-2.30pm
• Dydd Iau, 22 Mai 10am-11.30am

Gallwch ddarllen mwy, a chofrestru ar gyfer digwyddiad ar-lein, o ddydd Llun 28 Ebrill, pan fydd yr ymgynghoriad yn cael ei lansio. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael ar-lein yn 
Ysbyty Tywysog Philip – Uned Mân Anafiadau – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda neu gallwch ffonio 0300 303 8322, opsiwn 5, cyfraddau galwadau lleol.

Mae’r ymgynghoriad yn dilyn ymgysylltu a datblygu opsiynau sydd wedi digwydd gyda’n staff, cleifion a chynrychiolwyr cymunedol, gan gynnwys grwpiau ymgyrchu yn ystod y misoedd diwethaf.

Gyda’i gilydd, bu iddynt ystyried rhestr hwy o 12 opsiwn, a datblygwyd pedwar ohonynt gan gynrychiolwyr cymunedol. Fe wnaethant eu sgorio, yn seiliedig ar feini prawf fel diogelwch, cynaliadwyedd, a ffocws cleifion, gan arwain at bedwar opsiwn ar gyfer ymgynghori.

Yn y cyfamser, bydd yr oriau agor dros dro presennol yn yr UMA, sef 8.00am-8.00pm, yn parhau. Os ydych chi’n byw yn, yn agos at, neu’n ymweld â Llanelli a bod gennych fân anaf yn ystod y dydd, gallwch barhau i gerdded i mewn i’r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Philip.

Os bydd eich mân anaf yn digwydd rhwng 8.00pm ac 8.00am ac yn methu aros tan y diwrnod wedyn, defnyddiwch:

• gwiriwr symptomau GIG Cymru ar-lein GIG 111 Cymru – Gwirwyr Symptomau
• neu ffoniwch GIG 111 Cymru am gyngor (dewiswch opsiwn 2 ar gyfer cymorth iechyd meddwl)

Mewn argyfwng sy’n bygwth bywyd, p’un a ydych yn oedolyn, yn berson ifanc, neu’n blentyn, ffoniwch 999 bob amser.

Nid yw’r newidiadau hyn yn effeithio ar Uned Asesu Meddygol Acíwt (AMAU) yr ysbyty. Mae’n dal i ddarparu triniaeth 24 awr y dydd i gleifion meddygol sy’n oedolion sâl iawn, fel y rhai sydd wedi dioddef strôc neu drawiad ar y galon. Rhaid cael mynediad at y gwasanaeth trwy 999, 111 neu atgyfeiriad gan Feddyg Teulu.

Yn dilyn ystyriaeth gydwybodol o’r ymgynghoriad a’i ganfyddiadau, bydd y Bwrdd yn ystyried yr holl adborth a thystiolaeth a gasglwyd yn ystod yr ymgynghoriad cyn gwneud penderfyniad terfynol, a gynlluniwyd ar gyfer cyfarfod y Bwrdd ym mis Medi 2025.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr ymgynghoriad hwn, neu os oes angen copïau printiedig ychwanegol o’n dogfennau ymgynghori, cysylltwch â’n tîm Ymgysylltu drwy e-bost: hyweldda.ymgysylltu@wales.nhs.uk

 neu ffoniwch 0300 303 8322, opsiwn 5, cyfraddau galwadau lleol.

Diolch am roi o’ch amser i rannu eich barn a’ch syniadau gyda ni. Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi yn un o’n digwyddiadau.

Cofion cynnes,

Mr Mark Henwood
Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Dros Dro

___________

Dear stakeholder,

Share your views on the future of Llanelli’s Minor Injury Unit 

A public consultation on four options for the future of minor injury care at Prince Philip Hospital (PPH), Llanelli, will launch on Monday (28 April 2025).

The 12-week consultation will run until 22 July 2025 with events being held in our community and online. A questionnaire will be available for you and members of our community to share your views with us. There will also be focus groups and meetings with community groups and stakeholders.

The Minor Injury Unit at Prince Philip Hospital provides treatment for minor injuries such as cuts, sprains and minor burns. It has been operating with changed opening hours on a temporary basis since November 2024. The current opening hours are from 8am to 8pm every day, as opposed to 24/7, primarily due to staffing, quality and safety concerns. 

We are consulting with staff, our local community and stakeholders, from Monday, on four proposed options for the future of the service.  
 
They are:  
• Option 1 – Doctor-led 12 hours (current temporary model) 
• Option 2 – Doctor-led 14 hours 
• Option 3 – Doctor-led phased (initially 12 hours, increasing to 14 hours, then 24 hours as staffing allows) 
• Option 4 – Urgent care centre (Same Day Urgent Care type model) 14 hours 

*All options less than 24-hours will also include an additional two hours of staffing to treat people who attend the unit towards the end of opening hours

People will have an opportunity to share their views on the proposed options and any impacts they may have, as well as propose alternative options. 

Members of the public can attend the public drop-in events to have a cup of tea or coffee and ask Health Board staff, including clinicians, any questions about the options, or to offer new ideas.

Events will be held between 3pm and 6pm (drop in anytime) on:
• Thursday, 8 May – New Cross Hands Working Men’s Club, 41 Llandeilo Road, Cross Hands, Llanelli, SA14 6RD
• Monday, 12 May – Selwyn Samuel Centre, Lleidi Suite, Park Crescent, Llanelli, SA15 3AE
• Friday, 16 May – Ammanford Pensioners’ Hall, Quay Street, Ammanford, SA18 3EN
• Monday, 19 May – Burry Port Memorial Hall Parc-Y-Minos Street, Burry Port, SA16 0BN

Online events will be held on:
• Tuesday, 6 May 6.30pm-8pm
• Tuesday, 20 May 1pm-2.30pm
• Thursday, 22 May 10am-11.30am

You can read more, and register for an online event, from Monday 28 April, when the consultation launches. More information will be available online at hduhb.nhs.wales/PPHMIU or you can call 0300 303 8322, option 5, local call rates.

The consultation follows engagement and option development that has taken place with our staff, patients and community representatives, including campaign groups during recent months. 
 
Together, they considered a longer list of 12 options, four of which were developed by community representatives. They scored them, based on criteria such as safety, sustainability, and patient focus, resulting in four options for consultation.
 
In the meantime, the current temporary opening hours at the MIU, of 8.00am-8.00pm will continue. If you live in, near, or are visiting Llanelli and have a minor injury in the daytime, you can continue to walk into the Minor Injury Unit at Prince Philip Hospital. 
  
If your minor injury occurs between 8.00pm and 8.00am and cannot wait until the next day, please use: 
 
•    the NHS Wales symptom checker online https://111.wales.nhs.uk/selfassessments
•    or call NHS 111 Wales for advice (choose option 2 for mental health support) 

In a life-threatening emergency, whether you are an adult, young person, or for a child, always dial 999. 
 
The hospital’s Acute Medical Assessment Unit (AMAU) is unaffected by these changes. It still provides 24 hour a day treatment for very sick adult medical patients, such as those who have suffered a stroke or heart attack. The service must be accessed via 999, 111 or GP referral. 

Following conscientious consideration of the consultation and its findings, the Board will consider all feedback and evidence collected during the consultation before making a final decision, planned for the Board meeting in September 2025.  

If you have any questions about this consultation, or need additional printed copies of our consultation documents, please contact our Engagement team by email: hyweldda.engagement@wales.nhs.uk

or call 0300 303 8322, option 5, local call rates.

Thank you for taking the time to share your views and ideas with us. We look forward to meeting you at one of our events.

Kind regards,

Mr Mark Henwood
Interim Executive Medical Director


FS-CASE Number 702126769 17.09.25, TEMPORARY ROAD CLOSURE NEAR GLYNFACH C2204 FOUR ROADS SA17 4SA NETWORK ONE REF 142989469


FS-CASE-Number 696949088 HOREB ROAD MYNYDDYGARREG SA17 4 NG NETWORK ONE REF 142642273


TEMPORARY ROAD CLOSURE MOUNTAIN ROAD PEMBREY SA16 0AJ 06.05.25 NETWORK ONE REF 142550698